Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Teams
Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Medi 2020
Amser:
09.40 -
10.20
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Andrew RT Davies AS David J Rowlands AS |
Tystion: |
Owain Roberts, Head of Table Office, Comisiwn y Senedd |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Williams (Cynghorydd Cyfreithiol) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Adroddiadau Blynyddol Grwpiau Trawsbleidiol: Trafod Adroddiad 2019-20
2.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Owain Roberts, Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno, Comisiwn y Senedd i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Grwpiau Trawsbleidiol 2019-20.
2.2 Trafododd y Pwyllgor sut mae'r broses o adrodd ar grwpiau trawsbleidiol wedi gweithio yn y Bumed Senedd a chytunodd i gynnwys hyn fel rhan o'i adroddiad gwaddol.
3 Recriwtio'r Comisiynydd Safonau
3.1 Trafododd y Pwyllgor y broses ar gyfer recriwtio Comisiynydd Safonau newydd.
3.2 Nododd y Pwyllgor y byddai'r cyfrifoldeb am y trefniadau gweinyddol yn cael ei ddirprwyo i Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried Disgrifiad Swydd drafft mewn cyfarfod sydd i ddod.
4 Gweithdrefnau ac arferion gwaith y Pwyllgor
4.1 Trafododd y Pwyllgor ei weithdrefnau a’i arferion gwaith ar gyfer trin adroddiadau gan y Comisiynydd Safonau.